Dan Evans

Writer and activist / Sgwennwr ac Ymgyrchydd. Desolation Radio.
Porthcawl.

 

“Welsh independence is firstly a fundamental, basic question of democracy. Because of our small size, Welsh votes simply do not matter in Westminster. This means we get governments and policies that we do not vote for imposed upon us. This is not democracy, and this situation has greatly contributed to the current disengagement and political alienation in Wales. Next, independence would ultimately allow us to create a fairer, more equal society that is not dominated by a small ruling elite or dependent on other countries and big businesses from outside Wales. As it stands, life is very hard for many people in Wales because they have no control over the economic decisions that affect their lives. Independence would change that and make people’s lives better.”

 

“Yn anad dim, mae annibyniaeth i Gymru, yn ei hanfod, yn fater o ddemocratiaeth sylfaenol. Yn syml, gan fod Cymru’n gymharol fach, nid yw ein pleidleisiau’n cyfri dim yn San Steffan. O ganlyniad rydyn ni’n gorfod derbyn rheolaeth llywodraethau a pholisiau nad ydyn ni wedi pleidleisio drostynt. Nid democratiaeth yw hyn, ac mae’n sefyllfa sydd wedi dylanwadu’n drwm ar y datgysylltu a’r ymddieithrio o wleidyddiaeth sydd i’w weld yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Nesaf, yn y pendraw byddai annibyniaeth yn ein galluogi i greu cymdeithas decach a mwy cyfartal – cymdeithas lle nad oes un elît bach yn dominyddu a rheoli popeth a chymdeithas hefyd nad fydd yn dibynnu ar wledydd eraill a busnesau mawr o’r tu allan i Gymru. Fel mae pethau’n sefyll, mae bywyd yn galed iawn i lawer o bobl yng Nghymru achos does dim rheolaeth gyda nhw dros y penderfyniadau economaidd sy’n effeithio ar eu bywydau. Byddai annibyniaeth yn newid hynny ac yn gwella bywydau pobl.”